Hydref 2018

Annwyl gydweithiwr,

 

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn craffu ar hynt y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru ac mae'n cynnal ei sesiwn graffu nesaf yn y cyswllt hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar 10 Ionawr 2019.

 

Mae Aelodau'r Pwyllgor yn awyddus iawn i glywed gan y rhai sy'n ymwneud â’r gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu a chynllunio’r cwricwlwm newydd, neu sydd â diddordeb yn y maes. Byddai'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid am unrhyw un o'r meysydd a ganlyn. Sylwch nad oes angen ymdrin â phob pwynt, dim ond y rhai rydych am gynnig sylwadau arnynt:

·         Hynt y gwaith o gynhyrchu fersiwn ddrafft o Gwricwlwm Cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru ei chyhoeddi a chael adborth gan y cyhoedd ym mis Ebrill 2019;

·         Rôl yr Ysgolion Arloesi ac unrhyw gyfleoedd a heriau sy’n eu hwynebu wrth iddynt gyfrannu at y gwaith o gynllunio’r cwricwlwm;

·         Y sefyllfa ddiweddaraf o ran gwaith y Gweithgorau a sefydlwyd i ymdrin â phob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad;

·         Cyfraniad arbenigwyr academaidd ac arbenigwyr allanol eraill yn y gwaith o gynllunio’r  cwricwlwm;

·         Sut y mae datganiadau 'Beth sy'n Bwysig?’, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, yn cael eu datblygu i greu cynnwys y cwricwlwm ym mhob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad;

·         Hynt y gwaith o ddiffinio canlyniadau cyflawniad wrth symud ymlaen drwy’r gwahanol gamau yn y cwricwlwm newydd;

·         Sut mae datblygiad Cwricwlwm newydd Cymru yn cyd-fynd â datblygiad y cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol newydd i athrawon;

·         Rhoi gwybod i ysgolion ac athrawon am y gwaith sy’n mynd rhagddo i ddatblygu’r cwricwlwm a chynnwys pob ysgol yn y gwaith hwn (nid dim ond yr Ysgolion Arloesi);

·         Effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu, rôl y Grŵp Cynghori Annibynnol a Bwrdd y Cadeiryddion, a chyfraniad y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ar Ddiwygio Addysg;

·         Pa mor barod yw ysgolion ac athrawon i gyflwyno'r cwricwlwm newydd ac i ba raddau y mae cysyniadau adroddiad yr Athro Donaldson ar ei adolygiad, Dyfodol Llwyddiannus, yn cael eu rhoi ar brawf a’u rhoi ar waith eisoes;

·         Sut y mae’r Grŵp Cwricwlwm ac Asesu yn sicrhau bod y gwaith o ddatblygu’r Cwricwlwm ar y trywydd iawn a chanlyniad y cyfarfod a gynhaliodd ar 13 ac 14 Tachwedd 2018 i adolygu cynnydd;

·         Hynt y gwaith o ddatblygu trefniadau asesu newydd;

·         Y camau a gymerir i sicrhau bod Cwricwlwm Cymru newydd yn ategu blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Cymraeg 2050;

·         Unrhyw fater arall y mae rhanddeiliaid yn dymuno tynnu sylw'r Pwyllgor ato.

 

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe bai rhanddeiliaid yn anfon tystiolaeth erbyn 17:00, dydd Gwener 07 Rhagfyr 2018.

 

Yn gywir,

Lynne Neagle AC / AM
Cadeirydd / Chair